Trefnir y gystadleuaeth hon gan y Next Tourism Generation Project mewn cydweithrediad â Tourism Society Wales a PLANED.
Mae’r gystadleuaeth wedi’i hanelu at bobl sy’n astudio mewn addysg bellach neu addysg uwch, neu at bobl ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd. Y nod yw helpu i hyrwyddo a llywio dyfodol twristiaeth a sgiliau cynaliadwy yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru.
Mae’r gystadleuaeth Next Tourism Generation yn gofyn i’r rhai sy’n gymwys ymateb i’r cwestiynau hyn:
Sut olwg ddylai fod ar ddyfodol twristiaeth yng Nghymru?
Pa sgiliau a hyfforddiant fydd eu hangen ar y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes twristiaeth i gefnogi’r datblygiad cynaliadwy hwn?
Mae’r gystadleuaeth yn agored ifyfyrwyr esydd wedi cofrestru ar gyrsiau yng Nghymru sydd â chydran sy’n ymwneud â thwristiaeth neu letygarwch AC i bobl ifanc sy’n gweithio yn y sector twristiaeth a lletygarwch neu sy’n dyheu am wneud.
Mae pedwar categori, a dylai cystadleuwyr gyfeirio at un maes yn eu hymateb:
Bydd yr enillwyr yn cael gwobr ariannol gwerth £250, a bydd pob cais ar y rhestr fer yn cael cyfle i fynychu symposiwm sgiliau twristiaeth a seremoni wobrwyo, a’r cyfle i gael eu cydnabod gan y prif gyflogwyr.
I gystadlu, rhaid i ymgeiswyr ddarparu Ymateb Digidol i’r cwestiwn (e.e. fideo, cyflwyniad PowerPoint, gwefan neu ap neu rywbeth arall) a chwblhau Ffurflen Gais ar -lein fer gan gynnwys crynodeb 250 gair o’u Hymateb Digidol. Gall ymatebion fod yn Saesneg neu yn Gymraeg.
Rhannwch ddiweddariadau ar Twitter @NTGWales #NTG2021
Dogfennau Cystadleuaeth:
Gwiriwch y Ffurflen Gais yn llawn cyn ei chyflwyno. Unwaith y bydd yn barod, e-bostiwch y Ffurflen Gais i ntg@planed.org.uk.
Y dyddiad cau i anfon eich cais atom yw hanner nos ar Ddydd Gwener 30 Ebrill 2021.